Next Network Meeting
22/08/2011

The next meeting of Cardiff Parent Network will be on wednesday 21 September from 10.00 until 12.00 noon.

Croeso i Wefan Rhwydwaith Rhieni Caerdydd

Cysylltu Rhieni â’i Gilydd
Rhoi ffyrdd i chi gael dweud eich dweud

Corff newydd yw Rhwydwaith Rhieni Caerdydd sy’n cael ei sefydlu gyda rhieni ar gyfer rhieni. Rydym yn cynnig ffyrdd o ddod â rhieni at ei gilydd a’u cynnwys er mwyn iddynt roi eu barn a dylanwadu ar wasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghaerdydd.

Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am Rwydwaith Rhieni Caerdydd, beth rydym yn ei wneud ac yn gobeithio ei wneud yn y dyfodol; sut y gall rhieni gymryd rhan, a hynny’n cynnwys derbyn gwybodaeth, cwblhau arolygon / holiaduron, dod i ddigwyddiadau a chymryd rhan mewn grwpiau penderfynu. Mae’n rhoi sylw i faterion perthnasol a datblygiadau newydd sy’n bwysig i blant a theuluoedd. Byddwn yn falch o gael unrhyw syniadau ar hyn!

Rhowch wybod am eich barn

Mae rhieni’n deall y llawenydd a’r anawsterau a geir wrth fagu plant, ac yn gwybod beth sydd o gymorth a beth y mae ei angen.